Lluoedd Arfog yng Nghymru

Milwr o gatrawd y Cymry Brenhinol yn ystod ei hyfforddiant yng Nghyprus.

Mae'r Lluoedd Arfog Cymru yn cyfeirio at ganolfannau milwrol a threfniadaeth yng Nghymru neu sy'n gysylltiedig â Chymru. Mae hyn yn cynnwys milwyr o Gymru a chatrodau Cymreig a brigadau o'r Lluoedd Arfog Prydeinig .

Mae'r Fyddin yng Nghymru yn cynnwys y tri gwasanaeth. Mae gan y Fyddin (rheolaidd a wrth gefn) ganolfannau mewn lleoliadau amrywiol ar draws Cymru. Cynrychiolir yr Awyrlu yn bennaf gan RAF y Fali ar Ynys Môn gyda Sgwadron wrth gefn yng Nghaerdydd ac mae gan y Llynges hefyd Uned Wrth Gefn yng Nghaerdydd. [1]

O’r lluoedd arfog, y Fyddin sydd â’r presenoldeb mwyaf yng Nghymru, gyda dros 1,400 o bersonél. Mae 3,230 o bersonél milwrol a sifil wedi eu lleoli yng Nghymru. Roedd hefyd dros 60 o sefydliadau a chanolfannau'r Weinyddiaeth Amddiffyn ; gan gynnwys canolfannau wrth gefn a chyfleusterau hyfforddi.

Yng nghyfrifiad 2021, dywedodd tua 115,000 o bobl yng Nghymru eu bod wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn flaenorol, sef tua 4.5% o drigolion arferol Cymru a oedd yn 16 oed neu’n hŷn.[2]

  1. "Welcome to Wales Supporting and investing in our Armed Forces Community in Wales" (PDF). Welsh Government.
  2. "UK Armed Forces veterans in Wales (Census 2021)". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-19.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search